Description: Heather logo portraitCynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Ionawr 2019

 

 

 

 

 

Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12 – Cwestiynau Llafar y Cynulliad i'r Cwnsler Cyffredinol

 

Diben

1.        Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), mae'r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Cynulliad, gan gynnwys unrhyw gynigion i ail-wneud neu ddiwygio'r Rheolau Sefydlog.

2.        Mae'r adroddiad yn argymell diwygio Rheol Sefydlog 12 fel bod modd i wahanol weithdrefnau fod yn gymwys i Gwestiynau Llafar y Cynulliad i'r Cwnsler Cyffredinol os yw ef neu hi yn ateb cwestiynau llafar ar faterion yn ymwneud ag unrhyw gyfrifoldebau sydd ganddo ef neu hi, ac eithrio rhai swyddog y gyfraith y llywodraeth. Mae'r newid y cytunodd y Pwyllgor Busnes arno i'w weld yn Atodiad A, ac mae'r cynnig ar gyfer Rheolau Sefydlog newydd i'w weld yn Atodiad B.

3.        Mae'r adroddiad hefyd yn nodi, er gwybodaeth, y dull gweithredu arfaethedig o ran amserlennu cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, ac o ran caniatáu sesiwn benodol ar gyfer cwestiynau llafar i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip. Nid yw'r rhain yn gofyn am newidiadau i Reolau Sefydlog.

Y cefndir

4.        Yn dilyn ad-drefnu Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2018, mae bellach gan y Cwnsler Cyffredinol gyfrifoldebau ychwanegol fel 'Gweinidog Brexit', ond nid yw'n un o Weinidogion Cymru a benodir o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru. Yn y cyfarfod ar 15 Ionawr 2019, awgrymodd y Rheolwyr Busnes nad yw'r gweithdrefnau presennol ar gyfer Cwestiynau Llafar y Cynulliad i'r Cwnsler Cyffredinol yn briodol o ystyried ei rôl newydd. Yn benodol, awgrymwyd y dylai fod cyfleoedd ar wahân i'w holi ef am ei rolau fel swyddog y gyfraith ac fel Gweinidog Brexit fel ei gilydd, ac y dylid cynnal balot ar gyfer sesiwn y Gweinidog Brexit fel sy'n digwydd yn achos Cwestiynau Llafar y Cynulliad i aelodau eraill o'r llywodraeth.

5.        Mynegodd y Rheolwyr Busnes bryder hefyd nad oes cyfle i holi'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, sy'n adrodd i'r Prif Weinidog, ynglŷn â'i chyfrifoldebau penodol.

Y Cwnsler Cyffredinol

6.        Mae Rheol Sefydlog 12.56(ii) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol ateb cwestiynau o leiaf unwaith bob pedair wythnos y bydd y Cynulliad yn eistedd. Cynigir bod y llywodraeth yn trefnu i'r Cwnsler Cyffredinol ateb Cwestiynau Llafar i'r Cynulliad ddwywaith ym mhob cylchdro o bedair wythnos: unwaith mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog y gyfraith y llywodraeth, ac unwaith mewn perthynas â'i gyfrifoldebau eraill.

7.        Fel bod modd i'r sesiwn 'swyddog y gyfraith' barhau i weithredu o dan y rheolau cyfredol ar gyfer Cwestiynau Llafar y Cynulliad i'r Cwnsler Cyffredinol, a bod y sesiwn 'Gweinidog Brexit' yn adlewyrchu'r rheini i Weinidogion Cymru, cynigir diwygio Rheolau Sefydlog 12.61 a 12.63A i ganiatáu i wahanol weithdrefnau fod yn gymwys i'r naill a'r llall.

 

8.        Er mwyn sicrhau tryloywder, bydd angen i'r ddogfen Cyfrifoldebau Gweinidogol egluro'n glir pa gyfrifoldebau sy'n rhai swyddog y gyfraith y Cwnsler Cyffredinol, a pha rai sy'n gyfrifoldebau 'ychwanegol'.

9.        Mae'r ateb arfaethedig wedi'i gynllunio fel na fydd angen iddo newid os a phan fydd Cwnsler Cyffredinol heb unrhyw gyfrifoldebau ychwanegol. Yn y sefyllfa honno, disgwylir y byddai'r llywodraeth yn dychwelyd i amserlennu un sesiwn Cwestiynau Llafar y Cynulliad i'r Cwnsler Cyffredinol yn unig, ac y bydd y rheolau presennol 'swyddog y gyfraith' yn gymwys. Gallai hynny hefyd ddigwydd lle mae gan y Cwnsler Cyffredinol gyfrifoldebau ychwanegol, ond nid yw'n ddigon i warantu sesiwn ar wahân ar gyfer Cwestiynau Llafar y Cynulliad.


Y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

10.     Nid yw'r ateb a gynigir yn yr achos hwn yn golygu bod angen newid y Rheolau Sefydlog. Mae hyn yn rhannol oherwydd y byddai'n anodd gwneud darpariaeth yn y Rheolau Sefydlog yn benodol i un Dirprwy Weinidog nad oedd hefyd yn gymwys i'r lleill, a hefyd oherwydd ei bod yn bosibl defnyddio'r darpariaethau presennol i ganiatáu slot penodol ar gyfer holi cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip.

11.     Mae Rheol Sefydlog 12.56(i) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Prif Weinidog ateb Cwestiynau Llafar y Cynulliad unwaith yr wythnos am hyd at awr. Gan fod slot rheolaidd Cwestiynau i'r Prif Weinidog wedi'i drefnu am 45 munud yr wythnos ar hyn o bryd, bydd y llywodraeth nawr yn trefnu'r slot hwn am 60 munud unwaith bob pedair wythnos. Gan ddefnyddio Rheol Sefydlog 12.57, bydd y Prif Weinidog yn gofyn i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ateb cwestiynau am bymtheg munud olaf y sesiwn honno ynghylch y cyfrifoldebau penodol sydd ganddi ym mhortffolio ehangach y Prif Weinidog.

12.     Bydd y Swyddfa Gyflwyno yn cynnal balot penodol ar gyfer y cwestiynau hynny. Bydd angen i'r Llywydd, drwy ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, benderfynu ar y nifer briodol o Aelodau i'w dewis am sesiwn 15 munud, gan nad yw hynny'n cael ei nodi yn y Rheolau Sefydlog. Oherwydd y bydd sesiwn y Dirprwy Weinidog yn cael ei chynnal o dan y Rheolau Sefydlog ar gyfer Cwestiynau i'r Prif Weinidog, byddai Rheolau Sefydlog 12.59 ynghylch dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno (tri diwrnod gwaith) a 12.63 ynghylch nifer y cwestiynau (un fesul Aelod) yn gymwys fel y maent i'r Prif Weinidog.

13.     Bydd angen pennu cyfrifoldebau'r Dirprwy Weinidog a'r Phrif Chwip yn glir a bod modd eu gwahaniaethu oddi wrth rai y Prif Weinidog.

Camau i’w cymryd

14.     Derbyniodd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i Reol Sefydlog 20 yn ffurfiol ddydd Mawrth 29 Ionawr 2019, a gwahoddir y Cynulliad i gymeradwyo'r cynnig yn Atodiad B, ac i nodi'r wybodaeth arall yn yr adroddiad hwn.

 

 

 

 

 

 

 

 

 



Atodiad A

RHEOL SEFYDLOG 12 – Busnes yn y Cyfarfodydd Llawn

Cwestiynau Llafar

12.54

Caiff yr Aelodau gyflwyno cwestiynau llafar i Brif Weinidog Cymru, i bob un o Weinidogion Cymru neu i’r Cwnsler Cyffredinol, am unrhyw faterion sy’n ymwneud â chyfrifoldebau’r Gweinidog neu’r Cwnsler (ac eithrio mai dim ond cwestiynau llafar am faterion sy'n ymwneud â'i gyfrifoldebau (os oes rhai) heblaw am fusnes y llywodraeth y caniateir eu cyflwyno i'r Gweinidog sy’n gyfrifol am fusnes y llywodraeth).

Cadw'r Rheol Sefydlog

12.55

Caiff yr Aelodau gyflwyno cwestiynau llafar i’r Comisiwn am unrhyw fater sy’n ymwneud â chyfrifoldebau’r Comisiwn.

Cadw'r Rheol Sefydlog

12.56

Rhaid trefnu bod amser ar gael yn y cyfarfodydd llawn er mwyn:

(i)       i Brif Weinidog Cymru ateb cwestiynau llafar unwaith, am hyd at 60 munud, ym mhob wythnos y bydd y Cynulliad yn cynnal cyfarfod llawn;

(ii)      i bob un o Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ateb cwestiynau llafar ynglŷn â’u cyfrifoldebau, o leiaf unwaith, am hyd at 45 munud, ym mhob pedair wythnos y bydd y Cynulliad yn cynnal cyfarfod llawn (ac eithrio mai dim ond os oes ganddo gyfrifoldebau am faterion heblaw busnes y llywodraeth y caniateir i’r Gweinidog sy’n gyfrifol am fusnes y llywodraeth ateb cwestiynau o dan Reol Sefydlog 12.56(ii)); a

(iii)     i’r Comisiwn ateb cwestiynau llafar o leiaf unwaith, am hyd at 30 munud, ym mhob pedair wythnos y bydd y Cynulliad yn cynnal cyfarfod llawn.

Cadw'r Rheol Sefydlog

12.57

Ar gais Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol, caiff un o Ddirprwy Weinidogion Cymru ateb unrhyw gwestiwn llafar am unrhyw fater y mae’n cynorthwyo Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol (yn ôl fel y digwydd) ynglŷn ag ef.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

12.58

Os nad yw’n rhesymol ymarferol i Brif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol ateb cwestiynau llafar ar ddiwrnod pan fyddai’n gwneud hynny fel rheol, caiff un arall o Weinidogion Cymru ateb y cwestiynau hynny, ar ôl hysbysu’r Llywydd ymlaen llaw.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 

 

12.59

Rhaid i gwestiynau i’r Prif Weinidog gael eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith cyn eu bod i gael eu hateb; rhaid i gwestiynau i Weinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a’r Comisiwn gael eu cyflwyno o leiaf bum diwrnod gwaith cyn eu bod i gael eu hateb.

Cadw'r Rheol Sefydlog

12.60

Derbynnir cwestiynau yn ôl disgresiwn y Llywydd, a rhaid iddo roi sylw i unrhyw ganllawiau ysgrifenedig a gyhoeddwyd yn unol â Rheol Sefydlog 6.17.

Cadw'r Rheol Sefydlog

12.61

Rhaid i’r Llywydd gynnal balot er mwyn dethol enwau’r Aelodau y caniateir iddynt gyflwyno cwestiynau llafar i Brif Weinidog Cymru, a Gweinidogion Cymru, a'r Cwnsler Cyffredinol (os yw'r Cwnsler Cyffredinol yn ateb cwestiynau llafar am faterion sy'n ymwneud yn unig â chyfrifoldebau sydd ganddo ef neu hi ac eithrio cyfrifoldebau swyddog y gyfraith y llywodraeth).

 

Diwygio'r Rheol Sefydlog

12.62

Rhaid cynnal balot o dan Reol Sefydlog 12.61 o leiaf un diwrnod gwaith cyn y diwrnod olaf y caniateir cyflwyno cwestiynau.

Cadw'r Rheol Sefydlog

12.63

Ni chaiff Aelod gyflwyno ei enw i’r balot o dan Reol Sefydlog 12.61 fwy na dwywaith ar gyfer cwestiynau llafar i un o Weinidogion Cymru yn benodol neu'r Cwnsler Cyffredinol (os yw'r Cwnsler Cyffredinol yn ateb cwestiynau llafar am faterion sy'n ymwneud yn unig ag unrhyw gyfrifoldebau sydd ganddo ef neu hi ac eithrio cyfrifoldebau swyddog y gyfraith y llywodraeth), ac unwaith ar gyfer cwestiynau llafar i Brif Weinidog Cymru.

Diwygio’r Rheol Sefydlog

12.63A

Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 12.63B, caiff unrhyw Aelod gyflwyno cwestiynau llafar i’r Cwnsler Cyffredinol (oni bai ei fod ef neu hi yn ateb cwestiynau llafar am faterion sy'n ymwneud yn unig ag unrhyw gyfrifoldebau sydd ganddo ef neu hi ac eithrio cyfrifoldebau swyddog y gyfraith y llywodraeth, lle bydd Rheol Sefydlog 12.61 yn gymwys) a'r Comisiwn.

 

Diwygio'r Rheol Sefydlog

12.63B

Ni chaiff Aelod gyflwyno mwy na dau gwestiwn llafar i’r Cwnsler Cyffredinol, ac un cwestiwn llafar i’r Comisiwn, ar gyfer unrhyw wythnos y byddant yn ateb cwestiynau.

Cadw'r Rheol Sefydlog

12.64

Yn achos cwestiynau a dderbynnir cyn yr amser cau y cytunir arno gan y Pwyllgor Busnes, rhaid penderfynu ar drefn cwestiynau drwy hapddull ar y diwrnod olaf y caniateir iddynt gael eu cyflwyno.

Cadw'r Rheol Sefydlog

12.65

Rhaid i’r Llywydd alw ar yr Aelod sy’n gofyn y cwestiwn i ofyn cwestiwn llafar atodol ac wedyn caiff alw ar Aelodau eraill i ofyn cwestiynau llafar atodol cysylltiedig. 

Cadw'r Rheol Sefydlog

12.66

Pan na chyrhaeddir unrhyw gwestiwn llafar, rhaid i’r Aelod gael ateb ysgrifenedig ar yr un diwrnod. Rhaid i’r ateb ysgrifenedig gael ei gyhoeddi yng nghofnod trafodion y cyfarfod llawn.

Cadw'r Rheol Sefydlog

 



Atodiad B

Cwestiynau Llafar

12.54 Caiff yr Aelodau gyflwyno cwestiynau llafar i Brif Weinidog Cymru, i bob un o Weinidogion Cymru neu i’r Cwnsler Cyffredinol, am unrhyw faterion sy’n ymwneud â chyfrifoldebau’r Gweinidog neu’r Cwnsler (ac eithrio mai dim ond cwestiynau llafar am faterion sy'n ymwneud â'i gyfrifoldebau (os oes rhai) heblaw am fusnes y llywodraeth y caniateir eu cyflwyno i'r Gweinidog sy’n gyfrifol am fusnes y llywodraeth).

12.55 Caiff yr Aelodau gyflwyno cwestiynau llafar i’r Comisiwn am unrhyw fater sy’n ymwneud â chyfrifoldebau’r Comisiwn.

12.56 Rhaid trefnu bod amser ar gael yn y cyfarfodydd llawn er mwyn:

(i)       i Brif Weinidog Cymru ateb cwestiynau llafar unwaith, am hyd at 60 munud, ym mhob wythnos y bydd y Cynulliad yn cynnal cyfarfod llawn;

(ii)      i bob un o Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ateb cwestiynau llafar ynglŷn â’u cyfrifoldebau, o leiaf unwaith, am hyd at 45 munud, ym mhob pedair wythnos y bydd y Cynulliad yn cynnal cyfarfod llawn (ac eithrio mai dim ond os oes ganddo gyfrifoldebau am faterion heblaw busnes y llywodraeth y caniateir i’r Gweinidog sy’n gyfrifol am fusnes y llywodraeth ateb cwestiynau o dan Reol Sefydlog 12.56(ii)); a

(iii)     i’r Comisiwn ateb cwestiynau llafar o leiaf unwaith, am hyd at 30 munud, ym mhob pedair wythnos y bydd y Cynulliad yn cynnal cyfarfod llawn.

12.57 Ar gais Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol, caiff un o Ddirprwy Weinidogion Cymru ateb unrhyw gwestiwn llafar am unrhyw fater y mae’n cynorthwyo Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol (yn ôl fel y digwydd) ynglŷn ag ef.

12.58 Os nad yw’n rhesymol ymarferol i Brif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol ateb cwestiynau llafar ar ddiwrnod pan fyddai’n gwneud hynny fel rheol, caiff un arall o Weinidogion Cymru ateb y cwestiynau hynny, ar ôl hysbysu’r Llywydd ymlaen llaw.

12.59 Rhaid i gwestiynau i'r Prif Weinidog gael eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith cyn eu bod i gael eu hateb; rhaid i gwestiynau i Weinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a'r Comisiwn gael eu cyflwyno o leiaf bum diwrnod gwaith cyn eu bod i gael eu hateb.

12.60 Derbynnir cwestiynau yn ôl disgresiwn y Llywydd, a rhaid iddo roi sylw i unrhyw ganllawiau ysgrifenedig a gyhoeddwyd yn unol â Rheol Sefydlog 6.17.

12.61 Rhaid i’r Llywydd gynnal balot er mwyn dethol enwau’r Aelodau y caniateir iddynt gyflwyno cwestiynau llafar i Brif Weinidog Cymru, a Gweinidogion Cymru, a'r Cwsnler Cyffredinol (os yw'r Cwnsler Cyffredinol yn ateb cwestiynau llafar am faterion sy'n ymwneud yn unig â chyfrifoldebau sydd ganddo ef neu hi ac eithrio cyfrifoldebau swyddog y gyfraith y llywodraeth).

12.62 Rhaid cynnal balot o dan Reol Sefydlog 12.61 o leiaf un diwrnod gwaith cyn y diwrnod olaf y caniateir cyflwyno cwestiynau.

12.63 Ni chaiff Aelod gyflwyno ei enw i’r balot o dan Reol Sefydlog 12.61 fwy na dwywaith ar gyfer cwestiynau llafar i un o Weinidogion Cymru yn benodol neu'r Cwnsler Cyffredinol (os yw'r Cwnsler Cyffredinol yn ateb cwestiynau llafar am faterion sy'n ymwneud yn unig ag unrhyw gyfrifoldebau sydd ganddo ef neu hi ac eithrio cyfrifoldebau swyddog y gyfraith y llywodraeth), ac unwaith ar gyfer cwestiynau llafar i Brif Weinidog Cymru.

12.63A        Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 12.63B, caiff unrhyw Aelod gyflwyno cwestiynau llafar i’r Cwnsler Cyffredinol (oni bai ei fod ef neu hi yn ateb cwestiynau llafar am faterion sy'n ymwneud yn unig ag unrhyw gyfrifoldebau sydd ganddo ef neu hi ac eithrio cyfrifoldebau swyddog y gyfraith y llywodraeth, lle bydd Rheol Sefydlog 12.61 yn gymwys) a'r Comisiwn.

12.63B        Ni chaiff Aelod gyflwyno mwy na dau gwestiwn llafar i'r Cwnsler Cyffredinol, ac un cwestiwn llafar i'r Comisiwn, ar gyfer unrhyw wythnos y byddant yn ateb cwestiynau.

12.64 Yn achos cwestiynau a dderbynnir cyn yr amser cau y cytunir arno gan y Pwyllgor Busnes, rhaid penderfynu ar drefn cwestiynau drwy hapddull ar y diwrnod olaf y caniateir iddynt gael eu cyflwyno.

12.65 Rhaid i’r Llywydd alw ar yr Aelod sy’n gofyn y cwestiwn i ofyn cwestiwn llafar atodol ac wedyn caiff alw ar Aelodau eraill i ofyn cwestiynau llafar atodol cysylltiedig. 

12.66 Pan na chyrhaeddir unrhyw gwestiwn llafar, rhaid i’r Aelod gael ateb ysgrifenedig ar yr un diwrnod. Rhaid i’r ateb ysgrifenedig gael ei gyhoeddi yng nghofnod trafodion y cyfarfod llawn.